Lansiad Pythefnos Gofal Maeth Cymru 2008: Mae'r ymgyrch newydd yn gofyn 'Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i faethu?'

Mae ymgyrch genedlaethol fawr yn cael ei lansio gan Rwydwaith Maethu Cymru ar 12 Mai i annog rhagor o bobl i ystyried a oes ganddyn nhw’r hyn sydd ei angen i faethu.

Bydd Helen Mary Jones AC yn lansio Pythefnos Gofal Maeth (12 – 25 Mai) yn y Senedd, Adeiladau Llywodraeth Cynulliad Cymru ddydd Llun 12 Mai. Bydd y lansiad yn cynnwys y dangosiad cyntaf o Telling My Story, cyfres o bedair stori ddigidol wedi’u cynhyrchu gan rai’n gadael gofal ynghylch eu profiadau o fod mewn gofal maeth. Rhieni maeth, pobl broffesiynol gofal cymdeithasol eraill a phobl ifanc gyda phrofiad o ofal maeth fydd yn bresennol yn y digwyddiad. Bydd Jane Hutt, y gweinidog dros blant, addysg, dysgu gydol oes a sgiliau, yn cyfarfod cyn y lansiad â'r bobl ifanc gyda phrofiad o ofal.

Bydd y ffigyrau newydd ynghylch y nifer o rieni maeth sydd eu hangen yng Nghymru yn ystod y flwyddyn nesaf yn cael eu datgelu yn y digwyddiad.

Mae prinder o 750 o rieni maeth yng Nghymru, sy’n golygu fod rhai plant yn cael eu symud o gartref i gartref yn ddianghenraid, yn gorfod newid ysgolion a byw bellteroedd oddi wrth ffrindiau a theulu.

Eleni, o dan y pennawd maethu: adnabod eich rhinweddau; mae’r ymgyrch yn annog pobl i sylweddoli efallai bod ganddyn nhw yr un rhinweddau â’r rhai sy’n maethu ar hyn o bryd, a bod hynny’n sail ar gyfer dod yn rhiant maeth gwych. Mae’r rhinweddau allweddol yn cynnwys gallu gwrando a sylwi’n dda, bod â synnwyr da o ddigrifwch, bod yn optimistig ac yn wydn.

Meddai Freda Lewis, cyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru: "Mae “Telling My Story” yn rhoi cyfle i bobl ifanc gyda phrofiad o ofal maeth gael dweud eu dweud, ac mae’n rhoi cipolwg breintiedig i ni i mewn i’w bywydau. Mae gan rieni maeth rôl hanfodol i’w chwarae wrth feithrin a chefnogi pobl ifanc fel hyn. Mae’r ymgyrch recriwtio rydym yn ei lansio heddiw’n dangos beth yw’r rhinweddau angenrheidiol i fod yn rhiant maeth ac yn annog pobl i sylweddoli eu bod ganddyn nhw hefyd."

Cymhyrchwyd “Telling My Story” gyda chymorth Canolfan George Ewart ar gyfer Dweud Stori ym Mhrifysgol Morgannwg, fel rhan o brosiect dweud stori ddigidol BBC Cymru gyda chefnogaeth oddi wrth yr elusen Voices From Care Cymru.

I ganfod rhagor ynghylch maethu a dod yn rhiant maeth ymwelwch â www.couldyoufoster.org.uk.

Download Word document, Unknown file size

Notes to Editors

  1. Fe’ch gwahoddir i lansiad Pythefnos Gofal Maeth am 10.30am ddydd Llun 12 Mai yn Adeilad Llywodraeth Cynulliad Cymru, Caerdydd.
  2. Ar gael i’w cyfweld a / neu dynnu lluniau: Freda Lewis, cyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru, Helen Mary Jones AC, yr Athro Hamish Fyfe o Brifysgol Morgannwg, gofalwyr maeth.
  3. Ffoniwch 020 7620 6441/16 neu e-bostiwch media@fostering.net i gadarnhau y byddwch yno
  4. Y Rhwydwaith Maethu yw elusen arweiniol y DU ar gyfer pawb sydd â rhan mewn maethu.

“I'm really proud to be supporting Foster Care Fortnight. My family have fostered many children over the years, and it's amazing to be able to give and share positive experiences with others who may be less fortunate.”

“As my own parents have been foster carers since I was very young, I know from long experience what a fantastic job foster carers do.”